english

Yr Eglwys yng Nghymru
Datganiad Newyddion
Penodi cyn beiriannydd awyrennau’r Llynges yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu

Peiriannydd awyrennau a fu’n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol yn ystod Rhyfel Ynysoedd y Falkland fydd Esgob nesaf Abertawe ac Aberhonddu.
Dewiswyd Archddiacon Wrecsam, John Lomas, yn 10fed Esgob Abertawe ac Aberhonddu, esgobaeth sy’n ymestyn hyd arfordir Penrhyn Gŵyr i’r de a thua’r gogledd mae’n cynnwys rhan helaeth o Ganolbarth Cymru.
Yn ystod ei 12 mlynedd fel peiriannydd awyrennau yn y Llynges Frenhinol, roedd yr Archddiacon John yn rhoi gwasanaeth i hofrenyddion, awyrennau jet Phantom F4 ac yna awyrennau jet Sea Harrier ar y llongau cludo HMS Illustrious ac Ark Royal, gan wasanaethu yn Rhyfel Ynysoedd y Falkland. Ar ôl gadael y Llynges treuliodd ddwy flynedd yn y Dwyrain Canol, yn gweithio ar awyrennau jet tornado yng nghanolfan awyr filwrol Dhahran yn ystod Rhyfel y Gwlff gyntaf. Maes o law gadawodd ei yrfa i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth ac fe’i hordeiniwyd yn 1994.
Ers hynny gwasanaethodd John yn Esgobaeth Llanelwy ac mae wedi chwarae rhan allweddol wrth gychwyn eglwysi a thrawsnewid y rhai oedd yn cael anawsterau. Yn ei swydd yn Archddiacon Wrecsam roedd yn rhan o’r tîm a arweiniodd gais llwyddiannus yr esgobaeth am £1.9m ar gyfer prosiect efengylu mawr yng nghanol Wrecsam – Cymuned Gristnogol Stryt yr Hôb erbyn hyn. Cyn hynny roedd John yn Weinidog Trosglwyddo esgobaethol, gan helpu plwyfi heb Reithor i feddwl am y dyfodol mewn ffyrdd blaengar. Yn ei swydd yn Rheithor Treffynnon am ddegawd roedd yn goruchwylio adeiladu eglwys newydd, San Pedr, fel adnodd i’r gymuned gyfan.
Cyhoeddwyd penodiad John yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu heddiw (4 Tachwedd) gan esgobion yr Eglwys yng Nghymru. Mae’n dilyn ymddeoliad Archesgob Cymru, John Davies, ym mis Mai, oedd hefyd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu.
Cadarnheir y penodiad ar 21 Tachwedd mewn cyfarfod o Synod Cysegredig Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn Eglwys San Silin, Wrecsam.
Dywedodd yr Uwch Esgob, Andy John, bod yr Archddiacon John yn angerddol dros efengylu.
Dywedodd, “Bydd John yn ychwanegiad rhagorol at Fainc yr Esgobion ac rwy’n falch iawn ei fod wedi derbyn y swydd hon. Mae’n angerddol dros efengylu ac am gefnogi clerigwyr yn eu gweinidogaeth fugeiliol. Yn bennaf oll, mae’n canolbwyntio ar bobl - mae’n gwybod sut i fynd ochr yn ochr ag eraill a’u helpu. Rhoddodd ei brofiad yn y Llynges Frenhinol, yn benodol, werthfawrogiad iddo y gall bywyd fod yn anodd ac mae’n wynebu heriau gyda gobaith ac egni, yn ogystal â synnwyr digrifwch cynnil.”
Ychwanegodd Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, “Gwasanaethodd John esgobaeth Llanelwy yn ffyddlon ac yn deilwng. Yn awr mae’n dwyn ei angerdd sylweddol dros yr Efengyl a’i ddawn greadigol at wasanaeth pobl a chynulleidfaoedd Abertawe ac Aberhonddu, ac, er ein bod yn drist o golli ei weinidogaeth, rydym yn siŵr y bydd yn dod â bendithion sylweddol i’w esgobaeth newydd. Dymunwn bob bendith iddo ef a Jan wrth iddyn nhw gychwyn ar gyfnod o drosglwyddo i gartref a gweinidogaeth newydd.”

Dywedodd yr Archddiacon John ei fod yn edrych ymlaen at arwain Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu wrth iddi gychwyn ar bennod newydd.
Dywedodd, “Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi cael fy mhenodi yn esgob Abertawe ac Aberhonddu ac rwy’n edrych ymlaen at gael dod i adnabod yr esgobaeth. Fy ysgogiad, bob amser, yw gweithio gyda phobl a’r clerigwyr i’w rhyddhau a rhoi’r adnoddau iddynt i adeiladu eglwys yn y gymuned a bod y dehongliad gorau un o Newyddion Da yr Iesu ym mha bynnag sefyllfa yr ydym yn ein cael ein hunain, boed mewn lleoliad trefol mawr neu leoliad bychan gwledig iawn. Mae helpu pobl ar y ffordd i fyw eu bywyd gorau yng Nghrist yn fraint anferth.”
Dywedodd bod ei amser yn y Llynges, yn ogystal â’i ffydd, wedi rhoi hyder iddo i ddod o hyd i ffordd trwy sefyllfaoedd anodd.
“Rwyf wedi bod yn rhan o rai prosiectau gwych sy’n newid bywydau a gweithio mewn a gyda thimau rhyfeddol ac rwy’n hyderus y bydd hynny’n parhau yn y cam nesaf hwn o’m gweinidogaeth. Rwyf yn gryf o blaid cadw pethau’n syml, yn glir a hawdd eu deall. Rwy’n hoff iawn o symlrwydd neges Esgobaethol Abertawe ac Aberhonddu sef ‘Casglu, tyfu, mynd’.   Rwy’n gobeithio gweithio gyda phobl yr esgobaeth i sicrhau bod y geiriau yma’n dod yn fyw, bod casglu’n digwydd, bod tyfu’n digwydd a bod mynd yn digwydd. Ac o ganlyniad bod Efengyl fyw yn cael ei gweld, ei phrofi a’i chyhoeddi.”

Taith ei weinidogaeth

Yn wreiddiol o Ashton-under-Lyne, ymunodd yr Archddiacon John â’r Llynges Frenhinol ar ôl gadael yr ysgol i hyfforddi fel peiriannydd awyrennau yn Adain Awyr y Llynges. Bu’n gweithio ar jetiau Phantom F4, hofrenyddion Lynx a Sea Harriers ar longau cludo awyrennau o gwmpas y byd, a bu’n gwasanaethu yn Rhyfel Ynysoedd y Falkland. Ar ôl gadael y Llynges treuliodd ddwy flynedd yn y Dwyrain Canol, yn gweithio ar awyrennau jet tornado.
Cychwynnodd John hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Mihangel Sant yn Llandaf, Caerdydd ac fe’i hordeiniwyd yn 1994.
Ei guradiaeth gyntaf oedd y Rhyl lle bu’n gwasanaethu am bum mlynedd o 1994 i 1999. Yna dychwelodd i’r Llynges Frenhinol fel Caplan i’r 3 Sgwadron Llong Ddistryw yn gwasanaethu ar Longau ei Mawrhydi Edinbugh, Glasgow a Liverpool. Yn ystod y cyfnod hwn gwasanaethodd yn Sierra Leone a dychwelodd i Ynysoedd y Falklan. Tra’r oedd yno, arweiniodd wasanaeth cofio teimladwy wrth Gofeb Rhyfel Mount Pleasant, y mae enwau’r rhai fu’n gwasanaethu gydag o 19 mlynedd ynghynt wedi eu hysgrifennu arni.
Dychwelodd John i Gymru fel Rheithor Treffynnon yn 2001, lle treuliodd y 10 mlynedd nesaf a goruchwylio adeiladu Eglwys newydd San Pedr.
Fe’i gwnaed yn Ganon Cadeirlan Llanelwy yn 2008 a bu’n gwasanaethu fel Deon Ardal Treffynnon o 2008 i 2011.
Penodwyd John yn Genhadwr Trosglwyddo yng Nghorwen o 2011 i 2013, ac yna bu’n Genhadwr Trosglwyddo ar gyfer Bangor Monachorum. Daeth yn Archddiacon Llanelwy yn 2014, ac, yn dilyn ad-drefnu esgobaethol, fe’i penodwyd yn Archddiacon Wrecsam yn 2018.
Cyfarfu John ei wraig, Jan, yn yr ysgol, ac maent wedi priodi ers bron i 42 o flynyddoedd. Mae ganddynt ddwy ferch a phump o wyrion ac wyresau.
Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau cerdded a darllen ac mae’n edrych ymlaen at gael cerdded ym Mannau Brycheiniog.
Mae hefyd yn edrych ymlaen at ddangos ei barch yng Nghapel Harvard, yng Nghadeirlan Aberhonddu, capel catrodol Cyffinwyr De Cymru. Gwasanaethodd ei daid yn y gatrawd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn yr 1990au roedd John yn Offeiriad i 3ydd Fataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig.